Gwybodaeth am y Ganolfan
Cyrraedd Yma
Trên:
Dim ond 10 munud ar droed o orsafoedd trenau Wrecsam Cyffredinol a Wrecsam Canolog yw Dôl yr Eryrod. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Canol y Dref ac yna dilynwch yr arwyddion i Ddôl yr Eryrod. Mae gwasanaethau bws hefyd yn gweithredu o’r orsaf reilffordd i ganol tref Wrecsam.
Bws:
Mae bysiau’n stopio ar Ffordd Smithfield a Ffordd Sir Amwythig, gyferbyn â Dôl yr Eryrod. I gael manylion am wasanaethau bws yn Wrecsam cliciwch yma .
Car:
Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Canol Tref Wrecsam ac yna Dôl yr Eryrod. Ar gyfer Llywio â Lloeren defnyddiwch LL13 8DG, neu Maes Parcio Dôl yr Eryrod . Mae Dôl yr Eryrod yn darparu 970 o lefydd parcio diogel dan do.
Gall ymwelwyr dalu’n awtomatig trwy gofrestru yn:
http://hozah.com/eaglesmeadow/.
Ar droed:
Mae Dôl yr Eryrod o fewn taith gerdded fer 10 munud o Stryd Fawr Wrecsam; mae ein prif fynedfa i gerddwyr ar Stryt Yorke. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Canol y Dref ac yna dilynwch yr arwyddion i Ddôl yr Eryrod.
Gwestai
Canfod a chymharu gwestai yn Wrecsam trwy HotelsCombined .
Beth sy'n Newydd?
Cadwch i fyny gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion a digwyddiadau yn Nôl yr Eryrod trwy danysgrifio i'n e-Gylchlythyr!