Gwybodaeth am y Ganolfan
Cyfleusterau
Loceri Amazon
Wedi’u lleoli ar lefel uchaf balconi wrth ymyl y lifftiau.
Cyfleusterau Newid Babanod
Mae cyfleusterau ar gael yn y ddau doiled i’r anabl yn ogystal â thoiled y merched ar lefel balconi. Mae’r ddau doiled i’r anabl yn cynnwys peiriannau gwerthu clytiau yn ogystal â gwaredu clytiau.
Wi-Fi Am Ddim
Mae Wi-Fi ar gael i’w ddefnyddio ledled Dôl yr Eryrod.
Lifftiau a Grisiau Symudol
Mae dau lifft cwsmer yn gwasanaethu’r maes parcio, Plaza a Balconi ar ochr Siop M&S, a dau arall sy’n gwasanaethu’r maes parcio a plaza yng nghefn siop F. Hinds. Mae grisiau symudol esgynnol ar gael ar gyfer mynediad hwylus i’r Balconi o lefel Plaza, ac maent wedi’u lleoli rhwng ein Siop M&S a Gemau Grainger.
Eiddo Coll
Mae Eiddo Coll yn cael ei gadw yn y Swyddfa Reoli. Ffoniwch 01978 265013 gydag unrhyw ymholiadau.
Ffotograffau Photo Me
Wedi’i leoli ar lefel y balconi wrth ymyl Loceri Amazon, gan ddarparu lluniau pasbort i ddefnyddwyr sy’n cydymffurfio â safonau swyddfa pasbort y DU.
Toiledau
Mae cyfleusterau toiled ar gael yn Nôl yr Eryrod. Dros dro, mae’r cyfleusterau sydd wedi’u lleoli ar lefel Balconi yn parhau ar gau. Mae cyfleusterau toiled y tu ôl i siop Eurochange ar agor i’r cyhoedd ac mae cyfleusterau dynion a merched yn cynnwys ciwbiclau mynediad eang.
Mae cyfleusterau toiled anabl ar wahân a chyfleuster Mannau Newid (sy’n cynnwys bwrdd newid trydan, teclyn codi (angen sling eich hun), sedd a lle teuluol) sydd hefyd yn hygyrch i’r cyhoedd. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth. Gellir sicrhau bod y toiled Mannau Newid ar gael y tu allan i oriau ar gais.
Mae gan doiledau i’r anabl larymau sy’n gysylltiedig â diogelwch 24/7.
Mae’r toiledau cyhoeddus wedi derbyn “Safon Platinwm” gan Loo of the Year yn 2017.
Diogelwch a Chymorth Cyntaf
Gwnewch swyddogion ddiogelwch yn ymwybodol os oes angen cymorth arnoch. Fel arall, ewch i’r Swyddfa Reoli y tu ôl i F.Hinds, neu ffoniwch 01978 265013.
Llogi Cadair Olwyn
Mae cadair olwyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gais. Ffoniwch y Swyddfa Reoli ar 01978 265013.
Beth sy'n Newydd?
Cadwch i fyny gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion a digwyddiadau yn Nôl yr Eryrod trwy danysgrifio i'n e-Gylchlythyr!